- Thumbnail

- Resource ID
- 32c8932c-25af-4187-9aa9-d0ed9a7ce03e
- Teitl
- Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio Parthau a Amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15
- Dyddiad
- Tach. 28, 2025, canol nos, Publication Date
- Crynodeb
- Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cefnogi polisi cynllunio cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’n dangos sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar raddfa’r perygl o lifogydd dros y ganrif nesaf ac yn nodi graddfa bosibl llifogydd gan dybio nad oes amddiffynfeydd yn eu lle. Mae hefyd yn nodi ardaloedd sydd mewn perygl o erydu arfordirol, ardaloedd sydd wedi gorlifo yn y gorffennol, a gwybodaeth allweddol am leoliad seilwaith amddiffyn rhag llifogydd. Defnyddir y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio fel offeryn sgrinio gan awdurdodau lleol i ddeall ble y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i lywio asesiadau canlyniadau llifogydd sy’n benodol i safleoedd. Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cynnwys haen o’r enw parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15. Mae hyn yn dangos ardaloedd sy’n elwa o amddiffynfeydd llifogydd a reolir ac a gynhelir gan yr awdurdod rheoli risg, gyda’r safon amddiffyn gofynnol ganlynol: 1 ym mhob 100 mlynedd (heddiw) ar gyfer afonydd 1 ym mhob 200 mlynedd (heddiw) ar gyfer y môr Ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd a adeiladwyd o 2016 ymlaen, rhaid caniatáu ar gyfer newid hinsawdd a rhaid mapio bwrdd rhydd dylunio fel parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15. Nid oes rhaid i amddiffynfeydd a adeiladwyd cyn 2016 gynnwys newid hinsawdd / bwrdd rhydd i fod yn gymwys fel parth a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15, ond maent yn dal i gynnig safon amddiffyn dda heddiw. Mae’r safon amddiffyn yn cynrychioli’r amcangyfrif gorau ar sail y data asesu diweddaraf. Mewn rhai achosion, gall hyn fod sawl blwydd oed. Mae’n debyg y bydd angen i chi ailasesu hyn fel rhan o unrhyw asesiad canlyniadau llifogydd a gyflwynir i ategu cynnig datblygu. Efallai y bydd angen modelu hydrolig hefyd i bennu eu safon amddiffyn gyfredol. Caiff parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 eu creu ar gyfer ffynonellau llifogydd unigol (h.y. afonydd neu’r môr). Nid oes parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Mae parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 yn galluogi awdurdodau cynllunio i ystyried datblygu mewn ardaloedd a allai fel arall gael eu mapio fel parth llifogydd 3 / parth llifogydd 2 a allai gyfyngu ar gyfleoedd i ddatblygu. Ni ddylid eu hystyried yn addas ar gyfer eu datblygu yn awtomatig. Rhaid dangos y risgiau a’r effeithiau, gan gynnwys asesiad o ddifrod, drwy asesiad canlyniadau llifogydd i benderfynu a ellir peri bod datblygiad yn rhydd rhag llifogydd ac yn ddiogel am weddill ei oes. Cydnabyddiaeth Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol wedi'i drwyddedu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU © UKCEH DEFRA, y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth Afonydd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig © Hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Yn cynnwys data OS © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.
- Rhifyn
- --
- Responsible
- superuser
- Pwynt cyswllt
- User
- superuser@email.com
- Pwrpas
- --
- Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
- None
- Math
- not filled
- Cyfyngiadau
- None
- License
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
- Iaith
- en
- Ei hyd o ran amser
- Start
- --
- End
- --
- Gwybodaeth ategol
- Ansawdd y data
- --
- Maint
-
- x0: 195233.999999125
- x1: 353874.12
- y0: 167164.274299639
- y1: 385224.509999747
- Spatial Reference System Identifier
- EPSG:27700
- Geiriau allweddol
- no keywords
- Categori
- Cynllunio Cadastre
- Rhanbarthau
-
Global